Fel Mae'r Afon
Mor wâg yw'r dyfodol
Yn aros 'nawr i ti a fi;
Dim rhwystr o'r gorffennol,
Cerddwn lawr y ffordd yn hy'.
'Rôl dod mor bell
'Does dim troi 'nôl i fod;
Na'i daflu i gyd i ffwrdd
Pan dry rhywbeth da yn sur;
'Does dim byd sy' wedi'i sgwennu
I ddweud pa ffordd rhaid i ni fynd.
'Dwi ddim ishio unrhyw sicrwydd,
Dim geiriau'n y graig,
Dim addewidion cadarn, Na, Na
Fel mae'r afon yn llifo i'r môr,
Felly bywyd sy'n llifo'n ddi-dor
O gopa'r mynyddoedd i fynwes y môr,
Felly'n bywyd sy'n ddi-dor.
'Rôl llusgo'n traed rhy hir
Pob milltir sy'n bla;
Mae'n hen bryd i ni brofi,
Profi'n bod ni'n ddigon da;
'Does dim gwir fel y gwir
Sy'n herio dy feddwl di;
Rhaid wynebu'r ffaith, paid â bod mor syn,
Mae popeth gwerth i'w cael, i'w cael fan hyn.
Fel mae'r afon yn llifo i'r môr,
Felly bywyd sy'n llifo'n ddi-dor
O gopa'r mynyddoedd i fynwes y môr,
elly'n bywyd sy'n ddi-dor.